Skip to main content

Funeral Notices

Roy Parry Reynolds

Llangynin

Yn dawel yng Nghartref Glyn Nest ar fore Mercher, 9fed o Fedi 2026, yn 92 mlwydd oed, bu farw Roy, o Tymore, Llangynin.

Priod ffyddlon y diweddar Valerie, tad annwyl Llinos a Geraint a’r diweddar Lynwen, tadcu arbennig Rhian, Celt, Adrian a Hannah, hen-ddadcu hoffus Efa-Grug, Efan, Mari, Besti a Griff, brawd a brawd yng nghyfraith parchus.

Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Ramoth, Cwmfelin Mynach, ddydd Mawrth, Medi 22ain am 2.30 o’r gloch.

Blodau’r teulu’n unig. Rhoddion os dymunir tuag at Ambiwlans Awyr Cymru drwy www.pefd.co.uk neu drwy ofal Peter Evans Funeral Directors, Rosewood, Plashett, Talacharn, Caerfyrddin, SA33 4TT. Ffôn: 01994 427 261.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.